Y Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg

Nodiadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2016

 

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel 12pm

 

Yn bresennol:

Sandy Mewies AC, Cadeirydd

Aled Roberts AC

Mike Hedges AC

Matt Harris (staff cymorth Sandy Mewies)

Paul Mewies (staff cymorth Sandy Mewies ‘)

Ceri Jackson (RNIB Cymru),

John Ramm, (Cadeirydd, RNIB Cymru)

Nicola Crews (RNIB Cymru)

Gareth Davies, (Gwirfoddolwr, RNIB Cymru)

Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru),

Andrea Gordon (Cŵn Tywys),

Jonathan Mudd (Cŵn Tywys)

Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion)

Richard Bowers (Cyngor Cymru i’r Deillion)

Catrin Edwards (Sense Cymru)

Emma Sands (RNIB Cymru)

 

 

Ymddiheuriadau

Eluned Parrott AC

Janet Finch-Saunders AC

Marcela Votruba (Ysgol Offthalmoleg)

 

1.  Y cadeirydd yn cyflwyno adroddiad ar y prif gyflawniadau

Cyflwynodd Sandy Mewies adroddiad ar y prif gyflawniadau a chrynhodd  waith y Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg yn y Pedwerydd  Cynulliad. Ac yntau’n weithredol ers 2008, mae’r aelodau’r grŵp wedi gweithio tuag at gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategaeth Golwg Cymru ac wedi gweithio’n agos gyda’r sector.

 

Mae materion allweddol fel trafnidiaeth wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a chafwyd llwyddiannau o ran gofal iechyd ac adsefydlu hygyrch. Fodd bynnag, cyfyd problemau o hyd, fel cleifion nad ydynt yn derbyn gwybodaeth iechyd mewn fformat y gallant ei gweld, neu gleifion sydd newydd gael diagnosis yn aros dros chwe mis am asesiad ailsefydlu.

 

Er ein bod heddiw’n dathlu’r gwaith a’r cynnydd a wnaed, mae’n bwysig gweithio tuag at gyflawni cyfleoedd a gyflwynir yn y Cynulliad nesaf. Mae’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, rhagor o bwerau, a pharhau â’r Cynllun Darparu Gofal Llygaid yn hanfodol i sicrhau newid pellach.

 

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn rhan annatod o sicrhau bod lleisiau pobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol yn cael eu clywed. Galwodd y cadeirydd ar y grwpiau a oedd yn bresennol i gyflwyno eu galwadau am y ffrydiau gwaith y mae angen parhau â hwy drwy Bapur Etifeddiaeth y gellir ei ddosbarthu yn awr a phan fydd y Cynulliad newydd ar waith.

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i sôn am weddill y prif gyflawniadau yn y papur (ynghlwm).

 

Diolchodd Mike Hedges i Sandy Mewies am gadeirio, ac ategodd Ceri Jackson ei ddiolchiadau                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                          .

 

2.  Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru

Rhannodd Ceri ei myfyrdodau ar y Grŵp Trawsbleidiol. Roeddent yn cynnwys yr angen i ddod â’r materion cywir i’r grŵp, a pha mor bwysig yw cyfraniad y Grŵp wrth sicrhau bod anghenion pobl ddall a phobl gyda golwg rhannol yn cael eu clywed. Llwyddodd un o’r materion, sef pa mor bwysig ydyw i blant â nam ar eu golwg gael y gefnogaeth gywir i gael ei ddwyn i sylw’r Gweinidog o fewn dau fis i gael ei gyflwyno yn y Grŵp.

 

Mae’r newidiadau o ran Diwygio Lles, a nifer y bobl sy’n cael eu gyrru i dlodi a hyd yn oed at hunanladdiad ar gynnydd. Mae’n parhau’n angenrheidiol i faterion gofal llygaid i gael blaenoriaeth uchel. Diolchodd CJ i Aelodau, a’r trydydd sector, sydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth, a phwysleisiodd fod y Grŵp yn hanfodol i wella gwasanaethau i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.

 

3.  Prif ofynion

Cyflwynodd RNIB eu prif ofynion o ran Etholiadau’r Cynulliad:

·        Targedau Atgyfeiriadau am Driniaeth

·        Gwasanaeth Swyddog Cyswllt Clinigol Llygaid

·        Darpariaeth QTVI (athrawon cymwysedig ar gyfer plant â nam ar eu golwg) a

·        Byw’n annibynnol, yn enwedig o ran cludiant.

 

Amlinellodd Catrin Edwards o Sense eu blaenoriaethau allweddol, sy’n cynnwys:

·        Cynyddu ymwybyddiaeth a nodi byddardod-dallineb, gan gynnwys, codi ymwybyddiaeth ar gyfer y rhai nad ydynt yn cael eu nodi fel pobl sydd â nam ar ddau synnwyr, ac felly nid ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer cael cymorth.

·        Diwygio Anghenion Addysgu Ychwanegol - i’w ddwyn i sylw’r Cynulliad newydd yn gynnar

·        Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – mae angen y buddsoddiad cywir i’w weithredu, a gwir ymrwymiad i gymorth ataliol.

 

Cyflwynodd Owen o Gyngor Cymru i’r Deillion ei ofyniad allweddol:

·        Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn flaenoriaeth, ac nad yw gwasanaethau yn cael eu colli oherwydd y newidiadau

·        Gwybodaeth hygyrch ac arwyddion

·        Technoleg - dylai’r dewis fod ar gael os yw pobl am ei gael          

·        Trosedd casineb anabledd

 

Cŵn Tywys:

·        Ailsefydlu a sefydlu - ffocws ar atal

·        Yr amgylchedd adeiledig a mannau a rennir - cael y canllawiau ar yr hawl hwn

·        Trafnidiaeth gyhoeddus

·        Addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – mae angen i’r gwasanaethau siarad â’i gilydd yn well.